Canolfannau Croeso

Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth neu gyngor wrth i chi gynllunio’ch ymweliad neu pan fyddwch yma, cysylltwch neu galwch i mewn yn un o’r Canolfannau Croeso.
Bydd y staff yn hapus i’ch helpu trwy:
- Archebu llety ymlaen llaw neu wrth gyrraedd
- Archebu tocynnau theatr
- Gwerthu tocynnau ar gyfer rhai digwyddiadau a theithiau cychod lleol
- Archebu teithiau bws
- Rhoi manylion ar bethau i weld a gwneud
- Cynghori ynghylch gwasanaethau cludiant lleol.
Mae’r Canolfannau Croeso hefyd yn gwerthu amrywiaeth o fapiau a llyfrau tywys a dewis o anrhegion a chofroddion.
Llandudno
Adeilad y Llyfrgell
Mostyn Street LL30 2RP
Ffôn: 01492 577577
E-bost: llandudnotic@conwy.gov.uk
Conwy
Muriau Buildings
Rosehill Street
Conwy LL32 8LD
Ffôn: 01492 577566
E-bost: conwytic@conwy.gov.uk
Betws-y-Coed
Canolfan Groeso Parc Cenedlaethol Eryri
Stablau’r Royal Oak LL24 0AH
Ffôn: 01690 710426
E-bost: tic.byc@eryri-npa.gov.uk
Wyddech chi?
Mae teithiau bywyd gwyllt awr o hyd ar gael yng Nghonwy ar fwrdd y cwch mawr Princess Christine. Mae’r aber wedi’i dynodi’n safle o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd ei chyfoeth o adar a chreaduriaid y môr.
Mae arfordir Cymru’n 750 o filltiroedd o hyd (gan gynnwys yr holl rannau igam-ogam).
Ceir nythfeydd i filoedd o adar y môr ar greigiau’r Gogarth a Rhiwledyn, a’r rheini’n cynnwys Gwylogod, Gwylanod Coesddu a Gweilch y Penwaig.

