Visit Conwy

Dewch i Landudno

Dewch i Landudno

Mae Sir Conwy yn gyrchfan wych ar gyfer teithiau gan grwpiau neu deithiau bws. Ein lleoliad canolog, y cyfleusterau rhagorol a’r dewis enfawr o lety sydd wedi’i gymeradwyo yw rhai o’r pethau sy’n ein gwneud mor boblogaidd. Wedyn dyna harddwch yr arfordir a chefn gwlad, atyniadau, gweithgareddau, digwyddiadau ac adloniant. Ac mae’n hawdd iawn ein cyrraedd. Felly gallai’ch grŵp aros am wythnos, neu am noson yn unig.

Mae digonedd o dripiau diwrnod o fewn cyrraedd, ac maent yn berffaith ar gyfer teithiau mewn bws. Maent yn cynnwys tripiau i weld ein trefi hanesyddol, amgueddfeydd, orielau, safleoedd treftadaeth, gerddi a llawer mwy.

Mae Conwy yn enwog am ei hamrywiaeth ddaearyddol, felly mae’n berffaith ar gyfer teithiau gwaith maes addysgol. Neu ar gyfer gweithgareddau datblygu timau yn yr awyr agored. Gellir trefnu tripiau i ddarparu ar gyfer diddordebau arbennig hefyd. Dewiswch thema i’ch gwyliau er mwyn gweld ein parciau a’n gerddi hardd, ein heglwysi a’n cestyll, neu ewch i’r awyr agored i fynydda dan ofal arweinydd, neu i chwarae golff ar un o’n cyrsiau rhagorol. Ni fu erioed amser gwell i ddod i wylio’r gêm. Clwb Golff Conwy fydd y clwb cyntaf yng Nghymru i gynnal cystadleuaeth gymhwyso agored ar gyfer Cwpan Ryder Cymru ym Mehefin 2007.

Mae llawer o westai yn Llandudno yn arbenigo mewn lletya grwpiau mawr a gallant roi pob cymorth i chi gynllunio’ch teithiau.

A byddwn ni’n falch iawn o’ch helpu i drefnu ymweliad ar gyfer eich grŵp hefyd. Cysylltwch â ni yn tourism@conwy.gov.uk i gael gwybod mwy.

Manylion am parcio i fysiau yn Sir Conwy.

Accommodation

Photo Chwilio am lety

Un o bleserau trefnu gwyliau – neu ychydig ddiwrnodau i ffwrdd, yw penderfynu ble i aros.


Hawlfraint © Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet