Visit Conwy

Llandrillo-yn-Rhos

Llun o Rhos on Sea

Llandrillo-yn-Rhos

Mae’n hawdd gweld pam fod Llandrillo-yn-Rhos, gyda’i harbwr a’i golygfeydd dros y môr yn denu llu o ymwelwyr trwy’r flwyddyn. Cerdded ar hyd y promenâd yw’r ffordd hen ffasiwn o fwynhau awyr iach y môr. Ond, os ydych am hamddena go iawn mae digon o leoedd i wneud dim byd ond eistedd a mwynhau’r awyrgylch gyfeillgar. Mae nifer o siopau diddorol yn y dref. Gallwch hefyd eistedd i fwynhau perfformiadau Theatr Bypedau Harlequin, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 50 oed yn 2008. Ewch ar hyd y Llwybr Treftadaeth ac ymweld â lleoedd hanesyddol, gan gynnwys bryngaer Bryn Euryn. Mae’n werth ymlwybro yno petai ond i weld y golygfeydd. Mae’r llwybr yn dechrau wrth gapel bychan Sant Trillo o’r chweched ganrif ar y promenâd. Dyma un o gapeli lleiaf Prydain, gyda dim ond lle i 6 yn y gynulleidfa!

Mae’r dŵr yn lân iawn ac yn ddiogel, felly, mae’n ddelfrydol os ydych yn hoff o chwaraeon dŵr. Gallwch hwylio, ymdrochi a physgota môr. Cewch feicio am filltiroedd ar lwybr pwrpasol ar hyd yr arfordir i gael ymarfer a gweld yr olygfa’r un pryd. Os ydych am wneud rhywbeth ychydig mwy hamddenol, mae yma glwb golff cyfeillgar sydd ar agor i ymwelwyr. Ar ôl treulio prynhawn egnïol yn yr awyr agored, beth am gael llond bol o fwyd yn y bwytai, a’r tafarnau. Mae’n werth herio’r elfennau i gael bwyd fel hyn.


Hawlfraint © Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet