Visit Conwy

Dewch i Landudno

Dewch i Landudno

Mae Conwy yn lle perffaith ar gyfer teithiau busnes. Efallai mai’r hyn sy’n apelio yw’r cyfuniad unigryw a geir yma o wasanaethau di-ail, llety o’r radd flaenaf a gweithgareddau sydd wrth law. Neu efallai mai amrywiaeth y mannau i gynnal cynadleddau yw’r atyniad. Ni chewch yr un ganolfan gorfforaethol ddi-liw yma. Dim ond mannau rhagorol sydd wedi’u dylunio’n wych a chyfleusterau sy’n ateb pob diben. Ac rydych yn siŵr o gael mwynhau golygfeydd hyfryd. Dyna i chi Venue Cymru, a oedd yn cael ei adnabod gynt fel Theatr a Chanolfan Gynadledda Gogledd Cymru, sydd ar fin y môr yn Llandudno. Mae ganddi enw da ers amser maith fel un o’r canolfannau cynadledda gorau sydd dan reolaeth broffesiynol yn y DU. Ceir pob cyfleuster yma y byddai’r teithiwr busnes yn ei ddisgwyl yn yr oes hon. Mae ei lleoliad ar lan y môr yn ychwanegu at ei hapêl. Wedyn ceir cyrsiau golff o safon ryngwladol, chwaraeon dŵr, pysgota môr, gyrru oddi ar y ffyrdd, saethu colomennod clai a dringo, a hynny i gyd o fewn cyrraedd hwylus.

Mae ein tîm cynadleddau ymroddedig yn darparu’r holl wybodaeth, cymorth a gwaith trefnu y bydd arnoch eu hangen. Rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael yw ymweliadau blasu, cynllunio ar gyfer gweithgareddau, rhaglenni cyfochrog ac archebu gwelyau. Byddant yn sicrhau y bydd eich digwyddiad yn mynd yn hwylus. A’r peth gorau un am drefnu’ch cynhadledd yng Nghonwy yw na fydd unrhyw dagfeydd traffig mawr. Felly gallwch fynd ymlaen â’ch busnes yn syth.

I gael gwybod mwy, ewch i www.northwalesconferences.co.uk neu cysylltwch â Melissa Davies ar 01492 575946 neu melissa.davies@conwy.gov.uk neu Nichola Bird ar 01492 575942 neu nichola.l.bird@conwy.gov.uk.  


Hawlfraint © Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet