

O gyrchfannau bywiog i draethau gwag, mae ein toreth o draethau’n ymestyn am dros 20 milltir ac wedi denu ymwelwyr ers cenedlaethau. Maent yn ddelfrydol i gael picnic ac i ymdrochi, i fynd am dro i ddihuno’r synhwyrau neu ar gyfer rhai anturiaethau chwaraeon dŵr cyffrous.
Mae gennym draethau arobryn wrth garreg y drws. Maent yn hawdd eu cyrraedd, ceir mynediad da i ymwelwyr anabl, cyfleusterau gwych a digon o le parcio. A ph’un a ydych yn nofio, yn reidio’r tonnau, yn codi cestyll tywod neu’n mwynhau’r awyr iach, gallwch fod yn sicr o draethlin lân gyda dŵr diogel.
Er mwyn hiraethu am wyliau glan môr a fu, ewch i Draeth y Gogledd yn Llandudno. Dyma’r traeth mwyaf poblogaidd yn yr ardal gyda’i hufen iâ, bwced a rhaw, pier Fictoraidd a’i bromenâd hir. Mae gan Draeth tywodlyd y Gorllewin ardal chwarae wrth y traeth, golygfeydd trawiadol o Ynys Môn a’r mynyddoedd, clogwyni môr Pen y Gogarth a machlud haul rhyfeddol dros y dŵr.
Mae traethau Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos yn dda ar gyfer nofio, chwaraeon dŵr a physgota, gyda seiclo a cherdded ar gael ar hyd y llwybrau arfordirol. Mae promenâd Penmaenmawr yn cynnwys parc sglefrio, pwll ymdrochi ac ardal chwarae i blant, felly mae’n ddelfrydol i deuluoedd. Ac mae yna res o gytiau traeth traddodiadol hefyd, os ydych yn dymuno mynd i ymdrochi yn y ffordd hen ffasiwn. Mae’r traethlinau prysur yng Nghonwy a Deganwy yn byrlymu gyda hwnt ac yma’r cychod ar ddyfroedd yr aber sy’n llifo’n gyflym.
Er mwyn cael rhyddid lle agored eang ac awyr y môr ffres, mae gan draeth tywod a graean bras Bae Cinmel bromenâd hir a gwarchodfa natur ar ochr y tir o’r traeth. Mae gan y traeth yn Llanfairfechan erddi ac ardal chwarae ac ehangder mawr o dywod ar lanw isel, felly mae’n dda i gerdded yno.
Pan fydd y tymheredd yn gostwng, gwisgwch eich hetiau a’ch sgarffiau a chamwch allan i draeth oer, llawn gwynt. Nid oes dim byd tebyg i adnewyddu’r meddwl a’r corff. A pha bynnag draeth y dewiswch, am ba bynnag amser o’r flwyddyn, rydych yn sicr o syrthio mewn cariad â’r golygfeydd hardd o’ch cwmpas.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Gwobrau Glan Môr a Chyfleusterau'r Traeth