Visit Conwy

Unrhyw Broblemau?

Ar adeg yr asesiad, roedd pob safle’n bodloni’r safon sy’n ofynnol ar gyfer gradd ansawdd Croeso Cymru a nodir. Ni ellir dal Croeso Cymru yn gyfrifol am unrhyw ddiffygion yn safonau ac ansawdd y gwasanaeth sy’n dod i’r amlwg ar ôl i’r asesiad gael ei gynnal. Serch hynny, mae eich arhosiad yng Nghymru o bwys i ni, felly os ydych yn anfodlon â’r llety o gwbl, cysylltwch â pherchennog neu reolwr y busnes ar adeg eich arhosiad fel y gallant datrys y materion.

Yn anffodus, gall Croeso Cymru ond ystyried ymchwiliad i gŵyn am lety os ydych eisoes wedi codi’r mater gyda’r perchennog neu’r rheolwr. Os ydych eisoes wedi gwneud hyn ac nad ydych yn teimlo’n fodlon â’r canlyniad, anfonwch fanylion eich cwyn at yr Adran Sicrhau Ansawdd (quality@tourism.wales.gov.uk) o fewn 14 diwrnod o’ch ymweliad, lle bo’n bosibl yn cynnwys enw’r person y cyfeiriwyd eich cwyn ato/ati yn y lle cyntaf.

Nid yw Croeso Cymru mewn sefyllfa i allu rhoi iawndal lle nad yw cwsmeriaid wedi gallu datrys unrhyw anghydfodau. Os ydych yn cyfeirio’ch cwyn at Croeso Cymru i ymchwilio iddo, cadwn yr hawl i ddefnyddio’r gŵyn fel yr ystyriwn yn briodol, a allai gynnwys rhoi copi i’r perchennog dan sylw.

Canslo ac Yswiriant

Pan fyddwch yn cadarnhau archeb am wyliau, cofiwch eich bod yn dechrau contract cyfreithiol rwymol a allai roi’r hawl i’r perchennog i iawndal os byddwch yn methu cymryd y llety neu’n gadael yn gynt nag a drefnwyd. Mae’n ddoeth bob amser i drefnu yswiriant gwyliau i’ch yswirio yn erbyn canslo a phosibiliadau eraill nad oedd modd eu rhagweld. Os oes rhaid i chi newid eich cynlluniau teithio, rhowch wybod i’r gweithredwr gwyliau neu’r perchennog yn syth.


Hawlfraint © Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet