Visit Conwy

Teithio a Chludiant

Sut i ddod yma

Ar Drên

Gallwch ddod yma’n hawdd ar wasanaethau aml a chyflym o’r rhan fwyaf o leoedd ym Mhrydain. Mae Virgin Trains yn rhedeg gwasanaeth uniongyrchol rhwng London Euston a Llandudno. A cheir gwasanaeth cysylltu rheolaidd rhwng Cyffordd Llandudno (yr orsaf ar y brif reilffordd rhwng Caergybi a London Euston) a gorsaf canol tref Llandudno. Ar hyd yr arfordir, ceir gorsafoedd hefyd ym Mhensarn, Bae Colwyn, Conwy, Penmaenmawr, a Llanfairfechan.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.nationalrail.co.uk

Gallwch deithio i ganol y wlad ar reilffordd Dyffryn Conwy. Mae’n rhedeg o Landudno drwy fynyddoedd Eryri i Fetws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.conwyvalleyrailway.co.uk

Am wybodaeth ar gyfer teithio o’r gorsafoedd, ewch i www.traintaxi.co.uk

Os ydych yn ymweld o wlad dramor, mae ‘BritRail Pass’ yn ddull rhad o deithio ledled y DU. Mae ar gael i rai sy’n byw y tu allan i’r DU yn unig a rhaid ichi ei brynu cyn ichi adael eich gwlad. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.britrail.com

Mewn Car

Os ydych yn dod o ogledd-orllewin Lloegr, teithiwch ar yr M56 a gwibffordd yr A55. Os ydych yn dod o ganolbarth neu dde Lloegr, dilynwch yr M6, yr M5 a’r M1. Os ydych am ddilyn llwybr gyda golygfeydd o ganolbarth Lloegr, cymerwch yr A5 drwy Amwythig a Llangollen.

I gael gwybodaeth fuddiol ar gyfer cynllunio taith mewn car i Gonwy
Cyfleuster cyfrif pellter teithio: www.theaa.com
Y newyddion diweddaraf am draffig: www.traffic-wales.com

Mewn Bws

Mae bysiau rhwydwaith National Express yn stopio yn Llandudno a threfi eraill yr arfordir. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.gobycoach.com

Ar Long Fferi

Mae llongau Irish Ferries a Stena Line yn hwylio i Gaergybi o Ddulyn a Dun Laoghaire. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.irishferries.com neu www.stenaline.co.uk

Mewn Awyren 

Gallwch ddod yma’n hawdd o feysydd awyr Manceinion a Lerpwl. Gallwch drosglwyddo’n syth i ddod yma mewn car, mewn bws neu ar drên. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.manchesterairport.co.uk neu www.liverpooljohnlennonairport.com


Hawlfraint © Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet