a darganfyddwch gyrchfannau gwych fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos

a darganfyddwch gyrchfannau gwych fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos


I ddarllen dogfennau ar ffurf PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader.

Nôl Acrobat Reader

Preifatrwydd & Cyfreithiol

Telerau Defnydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i ddarparu safon uchel o ansawdd yn yr wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol.

Fodd bynnag, pan fo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi manylion am gwmnïau, cwmnïau neu unigolion mewn rhestrau busnes neu dudalennau eraill ar y safle hwn, mae’r disgrifiad o'r nwyddau neu wasanaethau maent yn eu darparu yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd ganddynt. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra a allai ddeillio o ddefnyddio'r wefan hon neu o weithgareddau / gynigion a hysbysebir gan ffynonellau allanol ar ein gwefan

Darperir dolenni i safleoedd eraill er hwylustod i chi. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi na chymeradwyo cynnwys unrhyw wefannau trydydd parti y mae'r tudalennau hyn yn gysylltiedig â nhw ac nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw gamau y gallech eu cymryd o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth neu gyngor a gafwyd o safleoedd o'r fath.

Digwyddiadau – Beth sy’n digwydd yn ac o gwmpas Sir Conwy

Mae’r digwyddiadau a restrir ar y rhan hon o'r wefan yn cynnwys rhai a drefnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ogystal â'r rhai a drefnir gan gyrff eraill. Mae rhai o'r cyrff hyn yn sefydliadau masnachol. Nid yw bod ar y rhestr Ddigwyddiadau hon yn nodi nac yn awgrymu unrhyw gymeradwyaeth gan y Cyngor ar gyfer y digwyddiad, y trefnwyr, na’u barn. Nid ydym yn gwarantu i gyhoeddi'r holl ddigwyddiadau ac rydym yn cadw'r hawl i dynnu rhestrau. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am ddigwyddiadau yr ydym yn hysbysebu ar ein gwefan sydd heb eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dylid gwneud ymholiadau pellach bob amser yn uniongyrchol gyda'r trefnwyr.

Firysau

Mae'r Cyngor yn gwneud pob ymdrech i roi gwiriad firws ar ffeiliau sydd ar gael i'w lawrlwytho ar y safle hwn. Ni all y Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio deunyddiau wedi eu lawrlwytho. Rydym yn argymell bod defnyddwyr yn ailwirio'r holl ddeunydd a lawrlwythir gyda'u meddalwedd gwirio firysau eu hunain.

Hawlfraint

Mae'r holl ddeunydd ar y safle hwn (gan gynnwys testun a delweddau), oni nodir yn wahanol, wedi’i ddiogelu gan hawlfraint. Gwaherddir ailgynhyrchu'r deunydd hwn mewn unrhyw ffurf heb gael caniatâd ysgrifenedig oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Clodrestr Ffotograffiaeth

© Pierino Algieri © Celtic Picture Library © Crown Copyright,
© Tony Fanning Photography © Dave Newbould

Atborth

Os gwelwch unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau gwe y credwch i fod yn anghywir neu amhriodol, rhowch wybod i ni ar tourism@conwy.gov.uk

Polisi Preifatrwydd

Rydym yn parchu preifatrwydd ein cwsmeriaid ac felly rydym wedi ymrwymo i'r polisi preifatrwydd canlynol, sydd wedi'i gynllunio i roi tawelwch meddwl a hyder i chi.

O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Cyngor i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir gennym amdanoch yn gyfreithlon.

Os byddwch yn dewis i gysylltu â ni trwy ddefnyddio'r ffurflen gais am lyfryn neu os anfonwch e-bost atom, yna byddwn yn defnyddio eich data i ymateb i chi gydag unrhyw wybodaeth y gofynnwch amdani.

Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Fodd bynnag, os ydych yn anfon e-bost yn gofyn am wybodaeth efallai y bydd angen i ni gysylltu ag adrannau eraill o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Defnyddio Cwcis

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach sy'n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ymwelwch â nhw. Maent yn cael eu defnyddio'n eang er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle.

Rydym yn eu defnyddio i helpu i gasglu gwybodaeth ddienw ar sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i lywio penderfyniadau ar sut y gallwn wella ein gwefan ac yn darparu gwasanaeth gwell ar gyfer ymwelwyr.

Sesiwn PHP (Parti 1af)

Caiff y cwci sesiwn hwn ei osod pan fo defnyddiwr yn llwytho'r dudalen gyntaf, mae angen y cwci gan y dechnoleg sylfaenol i bweru’r safle, mae'n para drwy gydol sesiwn y defnyddiwr + 30 munud ac fe’i tynnir pan fo’r defnyddiwr yn cau eu porwr. Nid yw'n storio unrhyw wybodaeth am y defnyddiwr; fe’i defnyddir i gadw dolen gyswllt unigryw rhwng y porwr a’r safle ar gyfer dibenion ceisiadau am wybodaeth a data sesiwn a ddefnyddir gan y safle i reoli mewngofnodi defnyddwyr. Gellir gosod y cwci hwn heb gadarnhad gan ei fod yn hanfodol i weithrediad sylfaenol y wefan.

Dadansoddiadau Google (Parti 1af)

Mae'r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i'n helpu i wella'r safle. Mae cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys y nifer o ymwelwyr â'r safle, o ble mae ymwelwyr wedi dod i'r safle a'r tudalennau maent yn ymweld â nhw.

Sylwch, ni fydd rhai rhannau o'r safle yn gweithio'n iawn os ydych yn analluogi defnyddio cwcis.

Newidiadau

Gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy newid y telerau hyn ar unrhyw adeg trwy ddiweddaru’r post hwn.
Dyddiedig: 17 Mai 2012

Wyddech chi?

 

Gwyn oedd lliw muriau Castell Conwy yn wreiddiol ac roedd toeau pigfain ar ei dyrau. Roedd yn sicr o fod yn olygfa ryfeddol.

Castle Turret

Roedd Penmaenmawr, ychydig filltiroedd i’r gorllewin o Gonwy, yn hoff gyrchfan gwyliau gan y prif weinidog Fictoraidd William Ewart Gladstone.

Mussel Conwy

Mae cregyn gleision sy’n enwog drwy’r byd yn cael eu casglu’n lleol a’u prosesu mewn gwaith newydd arbennig yng Nghei Conwy, sy’n agored i ymwelwyr.

 
 
 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.