a darganfyddwch gyrchfannau gwych fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos

Cyrchfannau

Towyn a Bae Cinmel


I ddarllen dogfennau ar ffurf PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader.

Nôl Acrobat Reader

Towyn a Bae Cinmel

Mae gan y rhan brysur hon o’r arfordir, filltiroedd o draeth hir a thywodlyd ac mae’n cynnig hwyl glasurol i deuluoedd. Mae Bae Cinmel yn boblogaidd ar gyfer canŵio a bwrdd hwylio, ac mae’r Foryd dlos yn boblogaidd gyda hwylwyr a physgotwyr O’r harbwr yma y lansiwyd y gwasanaeth hofranlong cyntaf. Gerllaw mae difyrion ac adloniant Tywyn yn boblogaidd iawn gyda’r ymwelwyr. Mae’r ardal yn adnabyddus i filoedd lawer fel canolfan gwersylla a charafanio. Ewch i Gae Ras Tir Prince a Ffair Knightly’s i gael rhywbeth i ddiddanu’r teulu i gyd.

Wyddech chi?

 

Mae teithiau bywyd gwyllt awr o hyd ar gael yng Nghonwy ar fwrdd y cwch mawr Princess Christine. Mae’r aber wedi’i dynodi’n safle o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd ei chyfoeth o adar a chreaduriaid y môr.

Photo

Mae arfordir Cymru’n 750 o filltiroedd o hyd (gan gynnwys yr holl rannau igam-ogam).

Photo

Ceir nythfeydd i filoedd o adar y môr ar greigiau’r Gogarth a Rhiwledyn, a’r rheini’n cynnwys Gwylogod, Gwylanod Coesddu a Gweilch y Penwaig.

 
 
 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.