Hygyrchedd
Ein bwriad yw darparu gwefan sy’n hawdd i bawb ei defnyddio. Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn datgan yn ddiamod fod yn rhaid i wefannau yn y sectorau preifat a chyhoeddus fod yn hygyrch o ran darparu gwasanaethau ar-lein.
Mae’r diwyg yn rhoi ystyriaeth i ddefnyddwyr sydd â nam gweledol neu sy’n cael anhawster defnyddio llygoden. Mae wedi’i gynllunio i gyd-fynd â meddalwedd darllen sgrin poblogaidd, a gallwch ei lywio’n hwylus gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
Cysylltwch â ni os ydych am roi adborth i ni er mwyn i ni allu parhau i wneud y wefan hon yn haws i’w defnyddio.
Cydymffurfio
Rydym yn ceisio cydymffurfio, fan leiaf, â Lefel AA, fel y nodir yn 1.0 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau Consortiwm y We Fyd Eang (W3C). Mae hefyd yn golygu gweithredu nifer o bwyntiau gwirio Blaenoriaeth 3 penodol. Yn gyffredinol, mae’r wefan yn cydymffurfio â safon AA Lefel WAI lle defnyddir HTML. Lle bydd dogfennau ar gael mewn fformatau eraill, megis Adobe Acrobat, ni lwyddwyd i gydymffurfio â’r safon.
Nodweddion hygyrchedd
- Caiff y cysylltiadau eu hysgrifennu i fod yn synhwyrol o’u darllen allan o gyd-destun.
- Mae gan bob delwedd ar y wefan hon ddisgrifiad testun cyfatebol.
- Defnyddiwyd taflenni arddull rhaeadrol ar gyfer diwyg a chyflwyniad.
- Lluniwyd pob tudalen fel bo modd ei darllen heb daflen arddull.
- Mae’r wefan hon yn defnyddio ffontiau maint perthnasol er mwyn i’r defnyddiwr allu nodi “maint testun” mewn porwyr gweledol.
- Mae pob ffurflen yn defnyddio dilyniant Tab rhesymegol.
- Mae labeli wedi’u cysylltu â meysydd mewn ffurflenni HTML.
- Mae map o’r wefan wedi’i gynnwys er mwyn darparu gwybodaeth am ddiwyg cyffredinol y wefan.
Cynyddu maint y testun
Er mwyn cynyddu maint y testun, y cyfan y mae angen ei wneud yw newid gosodiadau’r porwr.
- Microsoft Internet Explorer: ewch i’r ddewislen ‘View’, dewiswch ‘Text size’ ac wedyn naill ai ‘larger’ neu ‘largest’.
- Firefox: ewch i’r ddewislen ‘View’, dewiswch ‘Text size’ ac yna naill ai ‘Increase Ctrl ++, ‘Decrease Ctrl +- neu Normal Ctrl +0.
- Opera: ewch i’r ddewislen ‘Tools’, dewiswch ‘Preferences’, yna cliciwch ar dab tudalennau’r We. Dewiswch y botwm ffont arferol. Mae blwch dialog yn ymddangos ac yn rhoi opsiynau i gynyddu neu lleihau maint y ffont, teip y ffont, pwysau ac arddull.
- Network Navigator: ewch i’r ddewislen ‘View’ a dewiswch ‘Increase Font’ hyd nes bydd y testun y maint yr hoffech ei gael.
Newid lliwiau
Gall newid lliw cefndir ar wefan fod o help mawr i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar dechnoleg chwyddo gan y gall gwyn ymddangos yn llachar ac achosi anghysur. Mae hefyd yn bosibl newid lliw corff y testun ar y wefan. Gallwch wneud y ddau beth drwy newid y dewisiadau yn eich porwr:
- Microsoft Internet Explorer: ewch i’r ddewislen ‘Tools’, dewiswch ‘Internet Options’, dewiswch ‘Colours’ a gwnewch newidiadau i’r testun a’r lliwiau cefndir yn y panel ‘Colours’.
- Firefox: ewch i ddewislen ‘Tools’, dewiswch ‘Options’, agorwch y ddewislen ‘Content’ a dewiswch ‘Colours’. Gallwch bennu lliw’r testun a’r cefndir o’r fan hyn.
Cyfeiriadau Hygyrchedd
- Y Comisiwn Hawliau Anabledd
- Menter Hygyrchedd Gwefannau W3C
- Ymgyrch “See It Right” RNIB
- Uned e-Lywodraeth Swyddfa’r Cabinet
Porwyr gwe
Technoleg gynorthwyol
Wyddech chi?
Mae eogiaid a brithyllod môr i’w cael bellach uwchlaw rhaeadr y Graig Lwyd, ger Betws-y-coed, diolch i’r grisiau pysgod a adeiladwyd yn 1994. Nid oedd modd mynd heibio i’r rhaeadr cyn hynny.
Mae ecoleg y Gogarth mor unigryw ac amrywiol fel bod dwy amrywogaeth o loynnod byw wedi esblygu yno’n ddwy is-rywogaeth, sef y glesyn serennog a’r glöyn llwyd.
Mae morloi, llamhidyddion a dolffiniaid yn byw oddi ar ein harfordir. Mae’n bosibl y gwelwch nhw o lan y môr, ond cewch fwy o gyfle i’w gweld drwy fynd ar daith mewn cwch.

