a darganfyddwch gyrchfannau gwych fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos

Digwyddiadau

Beth sy'n digwydd mis yma?


I ddarllen dogfennau ar ffurf PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader.

Nôl Acrobat Reader

Peidiwch â cholli!

Alice Day 2012

3 Mai - Te Parti Dathlu Diwrnod Alys - Te Parti’r Hetiwr Gwallgof gyda Miss Alys Llandudno. Cymerwch ran yn yr ymgais i dorri record y byd am fwyta tartenni jam (mi gewch chi darten am ddim) - mae angen dros 2,000 o bobl i gymryd rhan! Y cwbl sydd ei angen arnoch chi ydi mat neu glustog, pecyn bwyd a gwisg ffansi! Ger y Cofadail, Promenâd, Llandudno rhwng 12.30pm a 2.30pm. Ffôn: 07830 309733. Gwe: www.facebook.com/AliceinWonderlandLlandudno

4 i 6 Mai - Strafagansa Fictoraidd Llandudno - Ymhlith hoff ddigwyddiadau Llandudno gyda bandiau’n gorymdeithio, diddanwyr stryd, jyglwyr, llyncwyr tân, hen gerbydau’r ffair a sawl atyniad arall, pob un â naws Fictoraidd. Ffôn: 07449 327022. Gwe: www.victorian-extravaganza.com

Eglwys Llanrhychwyn

17 i 19 Mai - Gŵyl Cerdded Trefriw - Mae Trefriw yn cynnal penwythnos o deithiau cerdded a digwyddiadau o gwmpas y pentref darluniaidd hwn yn Nyffryn Conwy. Dewch i brofi’r tirlun hynod o’r mynyddoedd a’r llynnoedd sydd ar ddannedd Trefriw a datgloi hanes y chwareli a’r mynyddoedd o’i amgylch. Gweler: www.trefriw.org am ragor o wybodaeth.

Jameela Jamil

18 a 19 Mai - Prom Xtra - Mae Diwrnod Promenâd Bae Colwyn wedi cael trawsnewidiad ac mae’n ddigwyddiad newydd a gwell ar gyfer 2013. Mae’n newid lleoliad a dyddiad a bydd hyd yn oed yn fwy a gwell. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys cerflun enfawr o gastell tywod, marchnad fwyd lleol, profiadau adrenalin awyr agored, ac arddangosfeydd ar y traeth ac ar y dŵr. Ym Mhorth Eirias, Promenâd, Bae Colwyn o 10am. Yn cynnws Fyw ar y Prom ar 18 Mai - Yn dathlu lansiad Porth Eirias gyda pharti ar y traeth a bydd Jameela Jamil o Radio 1 yn serennu! Y cyntaf i’r felin gaiff falu, ond mae’n rhad ac am ddim! Bydd y parti’n dechrau am 5pm felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gynnar rhag i chi gael eich siomi. Ffôn: 01492 575943. Gwe: www.promxtra.co.uk

25 Mai - Sioe Awyr Llandudno - Dewch i Landudno i weld arddangosfa wych awyrennau Falcons, Spitfire, Hurricane, BAC Strikemaster a Westland Sea King, ac i ddathlu’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud er lles milwyr a chyn-filwyr dall ym Mhrydain. Ar y Promenâd, Llandudno rhwng 12.30pm a 5.30pm. Ewch i www.llandudno-air-show.org.uk i weld y rhaglen lawn

I ddarganfod beth arall sy’n digwydd ym mis Mai lawrlwythwch gopi o'r daflen Digwyddiadau mis Mai yma.

Wyddech chi?

 

Yn 1170, hwyliodd y Tywysog Madog o’r man lle y mae Clwb Golff Llandrillo yn Rhos yn sefyll yn awr a chredir ei fod wedi glanio yn America. Mae hynny’n 312 o flynyddoedd o flaen Columbus!

Golf

Yn Llandrillo yn Rhos y ceir yr unig theatr marionetau draddodiadol ym Mhrydain. Mae Theatr Bypedau’r Harlequin yn cynnal perfformiadau bob dydd yn yr holl brif wyliau i ysgolion.

Smallest House

Ganed James Bond ym Mae Colwyn, neu ganed yr actor Timothy Dalton yno, beth bynnag. Chwaraeodd ran 007 yn The Living Daylights a Licence To Kill.

 
 
 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.