a darganfyddwch gyrchfannau gwych fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos

Pethau i'w gweld a'u gwneud

Teithiau Cysegredig yng Nghonwy Wledig


I ddarllen dogfennau ar ffurf PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader.

Nôl Acrobat Reader

Teithiau Cysegredig yng Ngonwy Wledig  

Eglwys Sant Crwst, Llanrwst

Datblygwyd teithiau Drysau Cysegredig i gynnig cyfle i chi deithio rhwng yr eglwysi a chapeli yn Nyffryn Conwy. Mae’r teithiau wedi’u cyflwyno mewn pedwar clwstwr i chi eu harchwilio naill ai mewn car neu ar hyd llwybr cerdded dynodedig.

O ddynion sanctaidd i ddynion drwg, pendefigion i bererinion, a llenorion i ladron, bydd taith y Drysau Cysegredig yn eich tywys trwy filoedd o flynyddoedd o’n hanes cyfareddol. Mae’r eglwysi a chapeli ar daith wedi’u lleoli mewn trefi bach a phentrefi traddodiadol ar draws Dyffryn Conwy. Mae rhai ohonynt yn amlwg yn y tirwedd. Nid yw llawer mor amlwg. Efallai dewch o hyd i eglwys yn swatio ger afon droellog i lawr lôn wledig anghysbell, neu hyd yn oed ar gopa mynydd. Mae gan pob eglwys a chapel ar daith y Drysau Cysegredig stori unigryw i’w dweud, â thrysorau cudd i’w datgelu.

Maen’t ar agor i chi eu harchwilio – yr hyn oll rydych ei angen yw eich dychymyg....

Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r taflen Teithiau Cysegredig yng Ngonwy Wledig 

I gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Drysau Cysegredig ewch i: www.drysaucysegredig.co.uk

Wyddech chi?

 

Bu Alice Liddell (Alys yng Ngwlad Hud) yn aros gyda’i theulu ym Mhenmorfa yn Llandudno.

Llandudno Pier

Cynlluniwyd y Llandudno ‘newydd’ fel tref fodel gyflawn ar ganol y 19 ganrif. Anheddiad ar gyfer gweithwyr y cloddfeydd copr oedd hi’n wreiddiol.

Summit Complex

Roedd Canolfan y Copa yn eiddo unwaith i’r pencampwr bocsio Randolph Turpin. Cyn hynny, bu’n orsaf delegraff a oedd yn rhoi gwybod bod llongau’n agosáu at Lerpwl.

 
 
 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.