Oddi ar y brif stryd. Mae’r Farmhouse Café yn fusnes sy’n cael ei redeg gan ŵr a gwraig. Mae Graham a Gaynor Wood, gyd chefnogaeth eu tîm cyfeillgar yn cynnig diodydd, brecwast, byrbrydau a chinio. Mae’r prydau i gyd yn cael eu paratoi’n ffres gan ddefnyddio cigoedd a llysiau lleol, mewn awyrgylch gyffyrddus.
Wyddech chi?
Bu Alice Liddell (Alys yng Ngwlad Hud) yn aros gyda’i theulu ym Mhenmorfa yn Llandudno.
Cynlluniwyd y Llandudno ‘newydd’ fel tref fodel gyflawn ar ganol y 19 ganrif. Anheddiad ar gyfer gweithwyr y cloddfeydd copr oedd hi’n wreiddiol.
Roedd Canolfan y Copa yn eiddo unwaith i’r pencampwr bocsio Randolph Turpin. Cyn hynny, bu’n orsaf delegraff a oedd yn rhoi gwybod bod llongau’n agosáu at Lerpwl.

