Rydym i gyd yn mwynhau siopau – wel y rhan fwyaf ohonom ta beth! Dyma ein hoff weithgaredd ac mae'n sicr o fod yn wir yng Nghonwy. Beth sydd ar eich rhestr siopa tybed? Gallwch ymweld â phalmentydd llydan a chanopïau Fictoraidd Stryd Mostyn, Llandudno neu ymweld â thrysorau cudd ein trefi a'n pentrefi llai.
Mae trefi fel Conwy, Deganwy a Llandrillo yn Rhos yn llawn o siopau, a siopau hen bethau diddorol, lle gallwch dretio chi eich hun, neu brynu anrheg unigryw i rywun arall.
Cewch gyfle hefyd i brynu nwyddau lleol go iawn. Mae lleoedd fel Melin Wlân Trefriw yn gwerthu dewis amheuthun o frethyn, gwlanen neu dapestri Cymreig, yn ogystal â chrefftau eraill. Mae serameg ansawdd uchel 20 o grochenwyr lleol ar werth mewn un lle yn Oriel y Crochenwyr yn nhref Conwy.
Peidiwch ag anghofio ein bwyd! Mae gennym ddewis gwych o siopau teulu cigyddion, siopau bara a groseriaid ynghyd â siopau deli gwych newydd, sy'n gwerthu bwydydd arbenigol Cymreig, o selsig a wobrwywyd i gaws, gwin a chwrw a fragwyd yn lleol.
Chwilio yn ôl ardal
Dewiswch ardal o'r rhestr isod.

