a darganfyddwch gyrchfannau gwych fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos

Pethau i'w gweld a'u gwneud

Natur


I ddarllen dogfennau ar ffurf PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader.

Nôl Acrobat Reader

Stori Bywyd

Natur

Yn gryno ac eto’n amrywiol, mae ein tirwedd byw werthfawr yn byrlymu â bywyd drwy’r flwyddyn. Ac nid oes rhaid i chi fynd ymhell i werthfawrogi lliwiau a seiniau ein trigolion mwy gwyllt.

Ceir brigiadau unig, coedwigoedd dwys a mwy o deithiau cerdded trwy goetiroedd nag y gwyddoch beth i wneud â nhw. Mae taith trwy ein tirwedd yn gyfle i beidio â’i golli i weld ein bywyd gwyllt bendigedig. A chyda pheth wmbredd o blanhigion, adar, anifeiliaid a bywyd môr, rydych yn sicr o weld rhai hoff bethau cyfarwydd, ac efallai rhai pethau i’ch synnu.

Mae Coedwigoedd Bodlondeb yn nhref Conwy yn goetir heddychlon gyda golygfeydd godidog o’r aber o’i ardaloedd agored. Mae’n byrlymu ag amrywiaeth o rywogaethau coed gan gynnwys derw, onn a cheirios, a thrigolion eraill yn cynnwys llwynogod, gwiwerod a gweilch gleision.

Mae gan Goedwigoedd Pwllycrochan, sy’n ymestyn dros lechweddau Bae Colwyn, goed collddail brodorol gan mwyaf gyda rhywogaethau eraill yn cynnwys castanwydd melys a phinwydd. Ceir digon o leoedd coediog eraill i ymweld â nhw hefyd. Mae gan bob un ei gymysgedd unigryw ei hun o drigolion.

Mae taith fer yn y car (neu grwydr) i dir uwch yn mynd â chi i dirweddau oriog Pensychnant gyda’i ferlod gwyllt prydferth, a gweision y neidr prin ar y llyn bach ar ben y bryn.

Mae toreth Pen y Gogarth o fywyd gwyllt yn cynnwys ieir bach yr haf a bywyd planhigion prin, gyr o eifr Cashmir sy’n crwydro’n rhydd a chytrefi mawr o adar môr, o wylanod coesddu i fulfrain. Cadwch lygad barcud allan o’r clogwyni. Nid yw’n anarferol gweld ambell i forlo, llamhidydd neu ddolffin trwynbwl yn nyfroedd arfordirol Môr Iwerddon.

Mae dros 200 o rywogaethau o adar wedi’u nodi yng Ngwarchodfa RSPB Conwy ar ddŵr a glannau’r aber. Gellir gweld llawer o amrywiaethau cyffrous yma ar hyd y flwyddyn. Gyda llwybrau cerdded, arsyllfeydd, teithiau cerdded tywys a llwybrau arbennig i bobl ifanc, mae’n ddelfrydol ar gyfer adarwyr profiadol a newydd.

Mae ffermdir yn gwneud cryn dipyn o gefn gwlad Conwy. Ac mae yna ddigon o lwybrau cerdded wedi’u marcio i’w dilyn trwy fryniau tonnog glas a dymunol. Chwiliwch am bethau prin fel y dylluan wen neu rywogaethau fel dyfrgi a llygoden y dŵr gerllaw afonydd a nentydd.

O warchodfeydd natur i anialwch anghysbell ac afreolus, mae cynefinoedd amrywiol Conwy yn hardd ac yn doreithiog ar hyd y flwyddyn. Ffrwydrad o fywyd newydd yn y gwanwyn, blodau a chân yr adar yn yr haf, lliwiau cochfrown euraidd yr hydref a thirweddau prin y gaeaf. Ewch i wisgo’ch esgidiau cerdded a gweld dros eich hun!

Mawr a bach

Ewch i ddarganfod y rhywogaethau amrywiol o blanhigion, anifeiliaid ac adar ym Mharc Gwledig y Gogarth. Mae gan y ganolfan i ymwelwyr ar y copa wybodaeth am beth i chwilio amdano, ac mae’n dweud hanes y dirwedd unigryw hon. Ewch i ddarganfod mwy yn www.conwy.gov.uk/countryside.

Ymweliad â natur

Mae Gwarchodfa Natur RSPB Aber Conwy yn lle da i weld adar a bywyd gwyllt lleol ac mae yna flwyddyn lawn o ddigwyddiadau. Trowch at www.rspb.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Wyddech chi?

 

Yn 1170, hwyliodd y Tywysog Madog o’r man lle y mae Clwb Golff Llandrillo yn Rhos yn sefyll yn awr a chredir ei fod wedi glanio yn America. Mae hynny’n 312 o flynyddoedd o flaen Columbus!

Golf

Yn Llandrillo yn Rhos y ceir yr unig theatr marionetau draddodiadol ym Mhrydain. Mae Theatr Bypedau’r Harlequin yn cynnal perfformiadau bob dydd yn yr holl brif wyliau i ysgolion.

Smallest House

Ganed James Bond ym Mae Colwyn, neu ganed yr actor Timothy Dalton yno, beth bynnag. Chwaraeodd ran 007 yn The Living Daylights a Licence To Kill.

 
 
 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.