Etifeddiaeth Fawr

O bensaernïaeth Fictoraidd goeth i waliau adfeiliedig a chloddweithiau ein hen gyndeidiau. Mae ein hetifeddiaeth gyfoethog yn rhoi cymeriad arbennig i’r cornel hwn o Gymru. A chyda stori unigryw i’w dweud, mae pob lle yn rhoi cipolwg hudol i ni o’r gorffennol.
Mae tref Conwy yn lle da i ddechrau archwilio’r hanes lleol. Mae’r castell dramatig o’r 13eg ganrif yn ymgodi dros un o’r enghreifftiau gorau o dref gaerog ganoloesol yn Ewrop. Credir mai Tŷ Aberconwy, sy’n dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif, yw’r plasty trefol hynaf sydd wedi goroesi yng Nghymru, a thaith gerdded fer i ffwrdd y mae Plas Mawr, y plasty trefol Elisabethaidd gyda’i dŵr amlwg a gwaith plastro mewnol prydferth.
Ar hyd yr arfordir yn Llandrillo-yn-rhos y mae gweddillion bryngaer hynafol Bryn Euryn, ac adfeilion Llys Euryn a godwyd ar safle palas o’r 13eg ganrif. Ond mae ein hanes lleol yn mynd llawer ymhellach yn ôl. Mae gwaith cloddio ym mwyngloddiau copr Pen y Gogarth sy’n 4,000 oed wedi datguddio miloedd o offer esgyrn, yn ogystal â channoedd o fetrau o feddau cynhanesyddol.
Ar y tir, gellir gweld gweddillion unig Castell Dolwyddelan am filltiroedd ar ei grib ar fynyddoedd Eryri. Mae’n un o’r ychydig gestyll Cymreig swyddogol a godwyd gan Llywelyn Fawr. Mae’n werth ymweld ag ef am y golygfeydd arbennig yn unig.
Mae Castell Gwydir yng ngerddi ysblennydd Dyffryn Conwy. Mae’n un o’r enghreifftiau gorau o dŷ cwrt Tuduraidd ac mae’n enwog am ei beunod a rhai golygfeydd uwch-naturiol gwirioneddol frawychus.
O lawntiau tŷ gwledig gwreiddiol i erddi cyhoeddus, mae gennym rai o enghreifftiau mwyaf prydferth y wlad yn ein gardd gefn. Mae Gardd Bodnant yn un y mae’n rhaid i arddwyr difrifol neu’r rhai sy’n mwynhau pleserau syml bywyd eu gweld. Mae’n cynnwys gerddi terasog a gwyllt, lawntiau perffaith ac amrywiaeth anferth o blanhigion o bedwar ban byd. Mae cameliâu yn y gwanwyn, blodau’r enfys glas yn yr haf a choed aeron yn ystod yr hydref yn rhai o uchafbwyntiau’r tymhorau.
O’i fan cysgodol ym Mhen y Gogarth, mae’r gerddi yn Happy Valley yn mwynhau golygfeydd gwych dros fae Llandudno. Mae rhywfaint o adnewyddu ystyrlon yng Ngerddi Haulfre ar ochr ddeheuol y Gogarth wedi dod â’r man poblogaidd hwn i’w ysblander gwreiddiol.
O dai crand, i erddi arddunol, mae ein treftadaeth ryfeddol yn rhan annatod o’n bywydau, a reolir yn ofalus ar gyfer ein mwynhad heddiw, ac ar gyfer blynyddoedd i ddod. Ac os byddwch yn ymweld ag un o’n trysorau cenedlaethol yn unig, rydych yn sicr o gael diwrnod bythgofiadwy.
Mewn dwylo da
Caiff ein tai a’n gerddi hanesyddol ofal cariadus fel y gall pob un ohonom eu mwynhau. Trowch at www.cadw.wales.gov.uk a www.nationaltrust.org.uk i gael manylion eiddo treftadaeth eraill.
Wyddech chi?
Bu Alice Liddell (Alys yng Ngwlad Hud) yn aros gyda’i theulu ym Mhenmorfa yn Llandudno.
Cynlluniwyd y Llandudno ‘newydd’ fel tref fodel gyflawn ar ganol y 19 ganrif. Anheddiad ar gyfer gweithwyr y cloddfeydd copr oedd hi’n wreiddiol.
Roedd Canolfan y Copa yn eiddo unwaith i’r pencampwr bocsio Randolph Turpin. Cyn hynny, bu’n orsaf delegraff a oedd yn rhoi gwybod bod llongau’n agosáu at Lerpwl.

