Amser Rhydd

O liw, golau a sain y llwyfan a’r sgrin, i fowlio, corau meibion a siopa gwirioneddol dda.
Mae’r cornel hwn o Gymru yn cynnig arlwy gwerth chweil drwy’r flwyddyn. Mae perfformiadau o safon fyd-eang yn Venue Cymru yn cynnwys popeth o opera a bale, dawns a drama, i gomediwyr ar eu traed, bandiau byw a phantomeimiau tymhorol. Felly os ydych yn arbenigwr yn y theatr neu beidio, bydd rhywbeth at eich dant, a gallwch gael rhywbeth i fwyta cyn y sioe yn y tŷ bwyta newydd sbon. Mae gan theatr lai o faint Bae Colwyn galendr llawn o ddigwyddiadau hefyd, ac mae sinema naw sgrin ar gael taith fer i ffwrdd yn y car sy’n dangos y ffilmiau mawr, ffilmiau clasurol wythnosol a ffilmiau yn y prynhawn i blant ar ddydd Sadwrn.
Peidiwch â cholli’r wledd o ddigwyddiadau blynyddol gan gynnwys Gŵyl Gerddoriaeth a Chelfyddydau Llandudno, Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru a Victorian Extravaganza Llandudno.
Angen rhywfaint o adloniant?
Mae yna galendr blwyddyn lawn ysbrydoledig o ddigwyddiadau yn Venue Cymru. Ewch i weld beth sydd ymlaen yn www.venue-cymru.co.uk.
A, ewch i weld perfformiadau gwych ar y llwyfan a’r sgrin yn Theatr Colwyn, trowch at www.theatrcolwyn.co.uk i weld beth sydd ymlaen.
Yn y siopau
Mae Llandudno wedi cael ei ystyried yn brif gyrchfan siopa Gogledd Cymru ers tro byd. Mae Parc Llandudno, datblygiad sydd newydd agor yn y dref yn brolio 13 o siopau adwerthu mawr trawiadol.
Yng nghanol y palmentydd llydan a chysgodlenni Fictoraidd y brif stryd siopa, fe welwch llawer o siopau annibynnol a busnesau teuluol ochr yn ochr ag enwau mawr y stryd fawr. Ond peidiwch ag anghofio camu oddi ar y brif stryd i ddarganfod rhai o drysorau’r strydoedd bach.
Mae trefi arfordirol llai o faint fel Conwy, Deganwy a Llandrillo-yn-rhos yn byrlymu â siopau crefft a hen bethau diddorol lle gallwch dretio’ch hun neu gasglu anrheg unigryw i rywun arall.
Mae yna gyfle hefyd i brynu cynhyrchion gwirioneddol leol fel nwyddau gwlân, llechi a chrefftau eraill mewn lleoedd fel Melin Wlân Trefriw yn Nyffryn Conwy, neu galwch i mewn i’r Stiwdios Crefft yng Ngardd Bodnant am ddewis eang o nwyddau o waith metel cyfoes i beintiadau a siocledi wedi’u gwneud â llaw.
I’r rhai sy’n dwli ar gelf, mae Oriel Mostyn Llandudno (sydd ar gau er mwyn ehangu ar raddfa fawr yn 2007) ac Academi Frenhinol Gymreig Conwy yn gwerthu casgliad prydferth o waith cerameg, peintiadau a gwaith gwydr gan artistiaid lleol.
Ac nid oes dim byd tebyg i daith siopa yng Ngogledd Cymru i dynnu’r cymeriad ffasiynol allan ohonoch. Mae gan bob un o’n trefi siopa amrywiaeth gyffrous o siopau. O labeli cyfarwydd y stryd fawr i siopau boutique bach a siopau cynllunwyr os hoffech sefyll ar wahân i’r dorf. Felly os ydych yn chwilio am ddillad clybio melltigedig neu rywbeth coeth i’r nos, rydych yn sicr o ddod o hyd i wisg sy’n gweddu i’r dim.
Peidiwch ag anghofio chwilio yn y marchnadoedd wythnosol hefyd. Gallwch ddod o hyd i bopeth o hosanwaith i fagiau llaw a phopeth rhyngddynt!
Wyddech chi?
Gwyn oedd lliw muriau Castell Conwy yn wreiddiol ac roedd toeau pigfain ar ei dyrau. Roedd yn sicr o fod yn olygfa ryfeddol.
Roedd Penmaenmawr, ychydig filltiroedd i’r gorllewin o Gonwy, yn hoff gyrchfan gwyliau gan y prif weinidog Fictoraidd William Ewart Gladstone.
Mae cregyn gleision sy’n enwog drwy’r byd yn cael eu casglu’n lleol a’u prosesu mewn gwaith newydd arbennig yng Nghei Conwy, sy’n agored i ymwelwyr.

