a darganfyddwch gyrchfannau gwych fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos

Pethau i'w gweld a'u gwneud

Bwyta ac Yfed


I ddarllen dogfennau ar ffurf PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader.

Nôl Acrobat Reader

Blas Gwych

Bwyta ac Yfed

Ydych chi’n chwilio am le gwych i fwyta? O fwyd cysur grymus i ddanteithion o’r safon uchaf, samplwch y lletygarwch lleol ac fe welwch pam y mae gan y rhan hon o’r byd enw mawr ar y map coginio.

Cynnyrch wedi’i Dyfu Gartref

Mae bwyd da yn rhan fawr o’n diwylliant yng Nghymru. Mae ein hardaloedd helaeth o laswelltir ffrwythlon ynghyd â hinsawdd berffaith i dyfu pethau, yn rhoi rysáit ar gyfer rhai cynnyrch o safon hynod flasus. Mae ein cig eidion du Cymreig a’n cig oen morfa heli yn enwog ym mhedwar ban byd. Ac mae ein morlin bron di-ben-draw yn gwneud y rhan hon o Gymru yn wlad bwyd môr bwysig hefyd. Mae ysbinbysgod y môr, cimychiaid a chregyn gleision lleol ar y bwydlenni gorau i gyd.

Os ydych yn dymuno coginio rhywbeth eich hun, mae digon o leoedd i chi brynu cynhwysion o safon. Mae yna amrywiaeth wych o siopau cigydd, pobydd a groser teuluol sydd wedi’u hen sefydlu, a llond dwrn o siopau delicatessen newydd, sy’n stocio’r bwydydd arbenigol gorau o Gymru. O selsig arobryn i’r bara lawr enwog a chaws a gwin Cymreig. A chyda’n golygfeydd trawiadol, pa ffordd well o fwynhau’r danteithion lleol na bwyta yn yr awyr agored? Mae picnic ar y traeth neu ar dir uwch wir yn gwneud y gorau o’r ardaloedd hardd hyn.

Bwyta Allan

Os oes yn well gyda chi adael y gwaith caled i rywun arall, nid oes rhaid i chi fynd ymhell i ddod o hyd i’r lleoedd gorau i fwyta. Mae’r rhan hon o’r byd dan ei sang â chyrchfannau bwyd gwych sy’n cynnig y briodas berffaith o fwyd a diod. Mae tai bwyta, bwytai cwrw a gastro-dafarndai rhagorol yn cynnig bwydlenni helaeth gyda chynhwysion lleol, dewislenni gwin ystyrlon a chroeso Cymreig twymgalon.

Rydym yn dwli ar ein cynnyrch wedi’i dyfu gartref ac rydym yn falch o’i rannu â gweddill y byd. Ond rydym hefyd yn hoff o liwiau a blasau coginio byd-eang. Os ydych chi’n hoffi bwyd rhyngwladol hefyd, chewch chi ddim eich siomi â’r amrywiaeth o dai bwyta gwych sy’n gweini bwyd o bedwar ban byd.

O brydau traddodiadol yr oedd ein cyndeidiau’n eu mwynhau, i’r datblygiadau diweddaraf mewn bwyd. P’un a ydych yn dewis bistro prysur neu brofiad bwyta mwy coeth, yr arwydd mwyaf dibynadwy o le da i fwyta yw bod y trigolion lleol yn bwyta yno hefyd! Pwy a ŵyr? Gallech hyd yn oed ddarganfod trysor cudd y byddwch am ei gadw i chi’ch hun.

Blas ar Gymru

Bob blwyddyn, rhoddir Gwobrau Bwyd a Diod y Gwir Flas i gynhyrchwyr bwyd a diod gorau Cymru a’r mannau gorau i fynd allan i fwyta yng Nghymru. Ffoniwch 0845 010 3300 neu trowch at www.walesthetruetaste.com i gael mwy o wybodaeth.

Wyddech chi?

 

Gwyn oedd lliw muriau Castell Conwy yn wreiddiol ac roedd toeau pigfain ar ei dyrau. Roedd yn sicr o fod yn olygfa ryfeddol.

Castle Turret

Roedd Penmaenmawr, ychydig filltiroedd i’r gorllewin o Gonwy, yn hoff gyrchfan gwyliau gan y prif weinidog Fictoraidd William Ewart Gladstone.

Mussel Conwy

Mae cregyn gleision sy’n enwog drwy’r byd yn cael eu casglu’n lleol a’u prosesu mewn gwaith newydd arbennig yng Nghei Conwy, sy’n agored i ymwelwyr.