a darganfyddwch gyrchfannau gwych fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos

Pethau i'w gweld a'u gwneud

Rhagair


I ddarllen dogfennau ar ffurf PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader.

Nôl Acrobat Reader

Tripiau diwrnod

RSPB Conwy Sir fach yw Conwy, felly does dim rhaid ichi fynd yn bell i gael pethau difyr i’w gwneud a lleoedd i’w gweld. Mae gennym adloniant i blant ac i oedolion, fel Sw Mynydd Cymru a Gwarchodfa Natur yr RSPB Conwy yng Nghyfordd Llandudno, felly mae’n lle perffaith am ddiwrnod o hwyl i’r teulu. Ac mae gennym fannau rhamantus sy’n ddelfrydol i gyplau. Ewch i weld y gerddi hardd ym Modnant, neu dir gwyllt ac unig Gwarchodfa Natur Pensychnant, lle gallwch fod ar eich pen eich hun.

Rydym yn fawr ein gofal am ein treftadaeth, felly mae llawer o fannau hanesyddol hefyd. Ewch i weld castell a muriau canoloesol tref Conwy, sy’n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd, neu’r gloddfa gopor gynhanesyddol ar y Gogarth.

Ac mae pob math o weithgareddau awyr agored ar gael yma. Mae dewis anhygoel o weithgareddau ar gael ym Mhlas y Brenin, y Ganolfan Fynydda Genedlaethol. Neu ewch tua glannau’r môr lle mae rhai o’r cyrchfannau gorau ar gyfer chwaraeon dŵr yn y DU. Gallwch sgïo, hwylio a syrffio.

Gwyliwch ein Fideo Adrenalin ac Antur yma.

Ac os yw hynny’n swnio fel petai’n ormod o waith, ymlaciwch a mwynhewch ychydig o ddiwylliant. Ewch i weld yr oriel gelf enwog yng Nghonwy, yr Academi Frenhinol Gymreig. Neu gallwch fwynhau perfformiadau o’r radd flaenaf ar lwyfan Venue Cymru.

Photo

Atyniadau

Mae llawer i’w weld. Gwell trefnu ymlaen llaw.
Cestyll yr oesoedd canol, cloddfeydd cyn hanesyddol, melinau gwlân sy’n gweithio. Nid eich atyniadau arferol, ond mae’n well gennym ni iddynt
fod fel hyn.

Chwilio am atyniadau
Photo

Gweithgareddau

Pa mor egnïol ydych chi am fod?
Antur ym mrig y coed, chwarae golff, neu daith gerdded hamddenol? – Cewch ddadlau ymysg eich gilydd.



Chwilio am weithgareddau
 
 
Photo

Siopa

Fasech chi'n hoffi ychydig o therapi siopa?
Mae siopau'r cwmnïau mawr i'w cael ochr yn ochr â'n siopau bychain annibynnol, ond nid ydynt yn eu bwrw i'r cysgod!

Chwilio am siopa
Photo

Bwyta

Pwy sy'n llwgu?
Gwisgwch ddillad ffurfiol i'ch pryd nos. Ewch i dafarn wledig, neu rhannwch pysgod a sglodion ar yr promenâd. Chi biau'r dewis.


Chwilio am bwyta
 
 
 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.