Mae Croeso Cymru bellach yn argymell bod pob gweithredwr twristiaeth yn paratoi, ac yn sicrhau bod ‘Datganiad Mynediad’ ar gael i ddarpar ymwelwyr. Dyma’r unig ffordd o ddisgrifio hygyrchedd mewn safleoedd twristiaeth yn gywir ar hyn o bryd.
Wrth archebu, gofynnwch a oes Datganiad Mynediad wedi’i baratoi ar gyfer y safle y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Wyddech chi?
Bu Alice Liddell (Alys yng Ngwlad Hud) yn aros gyda’i theulu ym Mhenmorfa yn Llandudno.
Cynlluniwyd y Llandudno ‘newydd’ fel tref fodel gyflawn ar ganol y 19 ganrif. Anheddiad ar gyfer gweithwyr y cloddfeydd copr oedd hi’n wreiddiol.
Roedd Canolfan y Copa yn eiddo unwaith i’r pencampwr bocsio Randolph Turpin. Cyn hynny, bu’n orsaf delegraff a oedd yn rhoi gwybod bod llongau’n agosáu at Lerpwl.

