a darganfyddwch gyrchfannau gwych fel Betws-y-Coed, Conwy a Llandrillo-yn-Rhos

Ble i aros

Gwybodaeth am Raddio


I ddarllen dogfennau ar ffurf PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader.

Nôl Acrobat Reader

Mae’r sêr yn dweud y cyfan 

Mae’r graddfeydd llety ar y wefan hon yn seiliedig ar gyfres o safonau ansawdd cyffredin a gytunwyd arnynt gan Croeso Cymru, Visit Britain, Visit Scotland a’r AA. Mae’r sêr yn adlewyrchu’r cyfleusterau ac ansawdd cyffredinol y profiad.

Arweiniad i sicrhau ansawdd

Mae’r llety a welir ar y wefan hon wedi cael eu graddio gyda sêr fel y gallwch chi ddewis llety, gyda hyder, gan wybod bob pob llety wedi cael graddfa sêr yn unol â’r ansawdd a’r cyfleusterau sydd ar gael yno. Mae graddfeydd sêr yn golygu y gallwch chi fod yn siŵr o lefel y safonau a dewis llety sy’n hollol addas i chi. Dim ond Croeso Cymru/AA sy’n cynnal gwiriadau o’r fath yng Nghymru, gan wirio dros 5,000 o leoedd. Yn achos yr eiddo sy’n berthnasol i asiantau hunanarlwyo, gall amlder yr ymweliadau fod yn hirach.

Weithiau, nid oedd modd ymweld â’r llety cyn cyhoeddi’r sêr. Yn yr achosion hyn, nodir ‘Disgwyl am Raddfa’ yn ymyl y lleoedd hynny.

Y sêr yw’ch arweiniad i ansawdd. Mae’r Cynlluniau Graddfa Ansawdd Sêr yn berthnasol i bob math o lety: gwestai, gwely a brecwast, tŷ llety, llety fferm, hostel/llety mewn arddull hostel, bythynnod a fflatiau hunanarlwyo a meysydd carafannau symudol a sefydlog/gwersylloedd.

Beth yw ystyr y sêr hyn?

 

Graddfa Sêr
5 Seren Safon eithriadol gydag elfen o foethusrwydd
4 Seren Safon ardderchog ym mhob maes
3 Seren Safon da o ran ansawdd a cysur
2 Seren Wedi ei gyflwyno a’i redeg yn dda
1 Seren Syml, ymarferol a dim ffrils

 

Gall lawer o leoedd sydd â graddfa sêr isel gynnig ansawdd uchel, ond nad ydynt yn bodloni’r holl ddisgwyliadau mewn perthynas â chyfleusterau a gwasanaeth ar gyfer y graddfeydd sêr uwch.

Holwch y sefydliad cyn archebu – byddant yn falch o gael helpu.

Pa gategorïau o lety sydd ar gael?

Mae sawl gwahanol fath o lety. I’ch helpu chi i ddewis, mae’r cynllun graddfeydd newydd yn cynnwys “dynodwr” i ddisgrifio’r math o lety allwch chi ei ddisgwyl – er enghraifft ar y wefan hon fe welwch chi:

  • Gwesty – y term safonol a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o sefydliadau o’r math hwn, ond efallai y gwelwch chi amrywiaeth o ddisgrifiadau eraill sy’n ymwneud â maint neu arddull penodol y gwesty, fel yr esbonnir yn y rhestr a ganlyn:
  • Gwesty Bach – yn cyfeirio at fusnesau sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gwesty ac sydd fel arfer yn cynnwys llai nac 20 ystafell – a ddefnyddir yn ôl disgresiwn perchennog y gwesty.
  • Gwesty Gwledig – mae tiroedd neu erddi gan Westy Gwledig ac mae mewn lleoliad gwledig neu eithaf gwledig, gyda phwyslais ar heddwch a thawelwch.
  • Gwesty Trefol – mewn dinas/tref sy’n cynnig ansawdd uchel gydag arddull nodedig. Lefel uchel o wasanaeth personol.
  • Gwesty Metro – mewn dinas a chanol trefi, sy’n cynnig gwasanaethau gwesty llawn, ond dim prydau gyda’r nos. Byddant yn agos at amrywiaeth o leoedd i fwyta.
  • Llety Gwestai – mae’r rhain yn cynnwys unrhyw beth o un ystafell gwely a brecwast i leoedd mwy, sy’n gallu cynnig pryd gyda’r nos ac yn berchen ar drwydded alcohol o bosibl.
  • Gwely a Brecwast – mae’r rhain yn cynnwys lle i ddim mwy na chwech o bobl. Mae’n union fel aros fel gwestai yng nghartref rhywun.
  • Tŷ Llety – dueddol o gynnwyd mwy na thair ystafell a gallant gynnig pryd gyda’r nos i westeion. Efallai bod gan rai ohonynt drwydded alcohol hefyd.
  • Llety Hostel - yn aml, rydych yn rhannu ystafelloedd gyda gwelyau bync gyda gwesteion eraill. Gallant gynnig ystafelloedd teulu - efallai bod cyfyngiad ar fynediad - gallant gynnig cyfleusterau hunanarlwyo neu arlwyo.
  • Hunanarlwyo – bythynnod a fflatiau lle gallwch gael cyfforddusrwydd fel pe baech gartref.
  • Maes Gwyliau – lle gallwch rentu carafán, caban pren neu chalet.
  • Maes Teithio – croesawu carafannau teithio, pebyll trelar a thaimodur.
  • Maes Gwersylla – croesawu ymwelwyr â phebyll.

Angen rhagor o wybodaeth?

Mae gwybodaeth fanwl am feini prawf graddfeydd ar wefan Croeso Cymru: www.wales.gov.uk/tourism

Yn ogystal â’r graddfeydd sêr hyn, mae’r AA hefyd yn rhoi amrywiaeth o ddyfarniadau ansawdd. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y dyfarniadau hyn a meini prawf graddfeydd ar wefan yr AA yn www.theaa.com.

Wyddech chi?

 

Mae teithiau bywyd gwyllt awr o hyd ar gael yng Nghonwy ar fwrdd y cwch mawr Princess Christine. Mae’r aber wedi’i dynodi’n safle o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd ei chyfoeth o adar a chreaduriaid y môr.

Photo

Mae arfordir Cymru’n 750 o filltiroedd o hyd (gan gynnwys yr holl rannau igam-ogam).

Photo

Ceir nythfeydd i filoedd o adar y môr ar greigiau’r Gogarth a Rhiwledyn, a’r rheini’n cynnwys Gwylogod, Gwylanod Coesddu a Gweilch y Penwaig.

 
 
 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.