Arweiniad i’r gwobrwyon
Croeso i Gerddwyr a Beicwyr
Dylai cerddwyr a beicwyr selog chwilio am yr arwydd hwn, sy’n cynnwys symbolau’r ‘esgid’ a’r ‘olwyn’. Mae rhai mathau o lety’n gymwys i ddangos y ddau symbol, ac eraill dim ond un. Mae’r symbolau’n cael eu dangos gan fathau o lety sydd wedi ymgymryd i ddarparu nodweddion sy’n dderbyniol bob amser gan gerddwyr a beicwyr. Maent yn cynnwys cyfleusterau i sychu dillad ac esgidiau gwlyb, mannau diogel i gadw beiciau dan glo, a digon o le i storio sachau teithio a phaciau cinio.
![]() |
Croeso i Feicwyr |
![]() |
Croeso i Gerddwyr |
![]() |
Gwobr rhosen yr AA am fwyd |
Wyddech chi?
Yn 1170, hwyliodd y Tywysog Madog o’r man lle y mae Clwb Golff Llandrillo yn Rhos yn sefyll yn awr a chredir ei fod wedi glanio yn America. Mae hynny’n 312 o flynyddoedd o flaen Columbus!
Yn Llandrillo yn Rhos y ceir yr unig theatr marionetau draddodiadol ym Mhrydain. Mae Theatr Bypedau’r Harlequin yn cynnal perfformiadau bob dydd yn yr holl brif wyliau i ysgolion.
Ganed James Bond ym Mae Colwyn, neu ganed yr actor Timothy Dalton yno, beth bynnag. Chwaraeodd ran 007 yn The Living Daylights a Licence To Kill.




