Taith mewn cwch i weld Trwyn y Fuwch a’r Gogarth (tua 1 awr); y Gogarth (tua 1/2 awr), talu ar y cwch. Teithiau pysgota môr (2 awr a 4 awr). Gellir bwcio ar y jetis ar y Rhodfa, wrth ymyl y Pier. Mae pob taith yn dibynnu ar y tywydd. Cychod wedi’u cofrestru gyda’r MCA - Gorgeous Gussie a Neptune.
Wyddech chi?
Mae perl mawr a hardd a gafwyd mewn cragen las yng Nghonwy yn yr 17 ganrif yn un o dlysau’r Goron.
Roedd y Rhufeiniaid yn hoff o ymdrochi yn Nhrefriw, yn Nyffryn Conwy. Yn awr gallwch chi wneud hynny gan fod y sba yn agored i’r cyhoedd.
Beddrod Nicholas Hakes yn Eglwys Fair, Conwy, a ysbrydolodd William Wordsworth i ysgrifennu’r gerdd "We are Seven".
