Adeiladwyd y bythynnod yma yn y 1840au ac roedden nhw ymysg y rhai cyntaf i gael eu codi ym Mhenmaenmawr fel cartrefi ar gyfer chwarelwyr. Yn ddiweddar cawsant eu hatgyweirio ac ar lawr gwaelod Rhif 4 mae amgueddfa fechan sy’n rhoi sylw i’r diwydiant chwareli a thwf Penmaenmawr yn y 19eg ganrif. Mae’r amgueddfa’n rhoi cipolwg i ni ar fywyd mewn cymuned ddiwydiannol yng Nghymru.
Croeso i grwpiau drwy’r flwyddyn drwy drefnu ymlaen llaw
Wyddech chi?
Mae eogiaid a brithyllod môr i’w cael bellach uwchlaw rhaeadr y Graig Lwyd, ger Betws-y-coed, diolch i’r grisiau pysgod a adeiladwyd yn 1994. Nid oedd modd mynd heibio i’r rhaeadr cyn hynny.
Mae ecoleg y Gogarth mor unigryw ac amrywiol fel bod dwy amrywogaeth o loynnod byw wedi esblygu yno’n ddwy is-rywogaeth, sef y glesyn serennog a’r glöyn llwyd.
Mae morloi, llamhidyddion a dolffiniaid yn byw oddi ar ein harfordir. Mae’n bosibl y gwelwch nhw o lan y môr, ond cewch fwy o gyfle i’w gweld drwy fynd ar daith mewn cwch.

