Dewch i weld drosoch eich hun
Tasg anodd yw ceisio rhestru’r holl bethau i’w gwneud yn Llandudno - tref glan môr fwyaf Cymru. Ble gawn ni ddechrau, dyna’r broblem? Beth am ymestyn ychydig ar eich coesau ar hyd pier hiraf Cymru? Teithio ar yr unig dramffordd ym Mhrydain i gael ei thynnu gan gebl? Beth am bicnic ar draeth sydd wedi ennill gwobrau am ei glendid? Gallwch wylio’r olygfa o gar cebl teithwyr hiraf Prydain, neu beth am anturio draw i’r llechweddau a rhoi cynnig ar ‘sno-tubing’. O ie, cofiwch fod angen amser arnoch chi i grwydro o amgylch y siopau, ymweld â’r gloddfa gopr o’r Oes Efydd ac yna noson yn y theatr.
Yn agos atom mae Safle Treftadaeth y Byd. Mae castell a waliau tref Conwy. Dyma rai o waliau tref gorau Ewrop. Ac mae gan gyrchfan fynydda brysur Betws-y-Coed, a gafodd ei datgan yn ddiweddar fel y pentref porth swyddogol i Eryri, lu o weithgareddau, gan gynnwys dringo, beicio mynydd a chwrs antur rhaffau uchel.
Ac mae hyd yn oed rhagor na hyn i gyd. Dyna’n hiaith, ein celfyddyd ein cerddoriaeth a’n bwyd cartref. Golff chwedlonol. Rhagor o deithiau cerdded yng nghefn gwlad nag a feddylioch amdanynt erioed. Gerddi prydferth fel gardd enwog Bodnant.
Peidiwch â chymryd ein gair ni -
Gwyliwch ein fideo i weld drosoch eich hun!
Gyda chymaint i'w weld a'i wneud, byddwch yn falch o glywed bod gennym amrywiaeth o lety gwahanol raddau hefyd – o rai sylfaenol i rai tu hwnt o foethus. Gorau oll, rydym yn hawdd i’w gyrraedd. Felly gallwch ddianc rhag popeth yn gyflymach nag a feddylioch erioed.
Llety
Trefnwch eich llety yma.
Gwesty gyda golygfa o'r môr, Gwely a Brecwast gwledig neu fwthyn ger yr afon. Penderfynwch chi.
Gweithgareddau
Pa mor egnïol ydych chi am fod?
Antur ym mrig y coed, chwarae golff, neu daith gerdded hamddenol? – Cewch ddadlau ymysg eich gilydd.
Atyniadau
Mae llawer i’w weld. Gwell trefnu ymlaen llaw.
Cestyll yr oesoedd canol, cloddfeydd cyn hanesyddol, melinau gwlân sy’n gweithio. Nid eich atyniadau arferol, ond mae’n well gennym ni iddynt
fod fel hyn.
Digwyddiadau
Does dim amser i fod yn ddiflas.
Rydym yn eich gwahodd i rannu a dathlu ein hoffter o fwyd, cerddoriaeth, chwaraeon, a rhagor ... ni chewch mo’ch siomi
Siopa
Fasech chi'n hoffi ychydig o therapi siopa?
Mae siopau'r cwmnïau mawr i'w cael ochr yn ochr â'n siopau bychain annibynnol, ond nid ydynt yn eu bwrw i'r cysgod!
Bwyta
Pwy sy'n llwgu?
Gwisgwch ddillad ffurfiol i'ch pryd nos. Ewch i dafarn wledig, neu rhannwch pysgod a sglodion ar yr promenâd. Chi biau'r dewis.
Conwy - Profiad Wir Hanesyddol
Conwy - Profiad Wir Hanesyddol
Pe baech yn cael eich cludo mewn amser nôl i Gonwy ym 1280, fyddech chi ddim yn gweld fawr o ddim. Dim ond yn anheddiad gydag abaty. Neidiwch ychydig flynyddoedd i 1287 a phrin y byddech yn adnabod y lle. Roedd brenin Lloegr, Edward I, wedi ymosod ar y rhanbarth, ac yn benderfynol byddai poblogaeth leol Cymru yn parhau wedi’u gorchfygu. Codwyd castell mawr gwyn ar y graig uchel yn edrych dros y dref. Gellid gweld ei dyrau enfawr am filltiroedd, fel y wal fawr a oedd yn amgáu’r dref. Symudwyd y mynachod i fyny'r afon i Faenan, a dim ond i werthu eu nwyddau i’w gorchfygwyr yr oedd y bobl leol yn cael dod tu fewn i’r waliau!
Ond mae’r hyn a oedd yn ddrwg i bobl Cymru ganoloesol yn wych ar gyfer yr ymwelydd modern. Mae castell a waliau (y mwyaf cyflawn yn Ewrop) Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn olygfeydd gwych. Mae'r golygfeydd o ben y tyredau, ar draws y mynyddoedd, yr afon a’r foryd o’u cwmpas yn eithaf trawiadol hefyd. Gellid treulio sawl awr hapus yn archwilio’r murfylchau sydd mewn cyflwr da, neu wneud taith gylch o'r dref ar hyd y waliau.
Yn ôl ar y ddaear, ac mae'r strydoedd cul ac adeiladau hanesyddol yn rhoi gwir ymdeimlad o le. Mae'n ddiddorol crwydro ymhlith eglwysi’r G12, cartrefi oes Elisabeth a thai masnachwyr canoloesol, cyn dirwyn i ben ar y cei gyda'i hanes morwrol cyfoethog.







